Golwg
Hanner can mlynedd yn ôl, roedd y bardd Waldo Williams yng nghanol brwydr i wrthod talu treth incwm. Eleni, mae Cymraes o deulu adnabyddus yng nghanol brwydr debyg ...“
|
Arian gwaed a’r hawl i wrthod talu
|
Dylan Iorworth |
|
Mae hyn yn wahanol i unrhyw wario arall. Mae’n fater o fywyd pobol.” Dweud ei neges yn syml y mae Siân Cwper, fel petai’r peth yn gwbwl amlwg i bawb. Mae’n credu fod rhyfel yn anghywir, felly ddylai hi ddim gorfod cyfrannu ato.
Dyna’r union ddadl oedd gan Waldo Williams hanner can mlynedd yn ôl pan oedd yn gwrthod talu treth incwm yn brotest yn erbyn Rhyfel Corea.
Yn awr, mae Siân Cwper a chwech o gydymgyrchwyr yng nghanol protest debyg. Dydyn nhwthau ddim yn talu cyfran o’u treth incwm ers misoedd, oherwydd y rhyfel yn Iràc, ac, yn awr, maen nhw’n cymryd cam pellach.
Mae’r saith y Saith Heddychwr Treth yn ceisio dod ag achos llys i gael yr hawl i atal rhan o’u trethi rhag cefnogi rhyfel. Fe fyddai’n golygu cael arolwg barnwrol er mwyn rhoi’r hawl i wrthwynebwyr cydwybodol sicrhau fod yr arian yn mynd at bwrpas arall.
|
“Dw i eisio i fy nhrethi fynd at rywbeth buddiol ...”
|
“Mae gan rhywun yr hawl i wrthod mynd i ryfel ac mae gan feddygon yr hawl i wrthod erthylu babi mae ganddyn nhw’r hawl i benderfynu drostyn nhw eu hunain,” meddai Siân Cwper.
Ond does gynnon ni ddim dewis r[an. Er nad ydan ni’n gorfod mynd i ryfel erbyn hyn, mae ein trethi ni yn talu am ryfel.”
Gan fod yr hawl i wrthwynebu cydwybodol wedi ei gydnabod yng ngwledydd Prydain ers 1916, pan oedd dynion ifanc yn gorfod mynd yn filwyr, mae’r saith yn credu fod angen creu hawl newydd i gydnabod y newid.
Oherwydd soffistigeiddrwydd arfau rhyfel heddiw, does dim angen gorfodi pobol gyffredin i fynd yn filwyr eu hunain, medden nhw, ond mae gorfodaeth ariannol wedi disodli gorfodaeth filwrol rydyn ni’n talu am ryfel yn hytrach na gorfod ei ymladd.
Mae nifer o’r saith eisoes yn wynebu ymweliadau gan y beilïod ac, efallai, garchar am wrthod talu; maen nhw’n disgwyl y bydd y camau cyfreithiol yn costio rhywbeth fel £50,000.
Yn 1954, roedd Waldo Williams yn sgrifennu at ffrindiau yn dweud efallai y byddai’n rhaid iddyn nhw eistedd ar y llawr, pe baen nhw’n galw i’w weld. Roedd y bardd o Sir Benfro’n disgwyl i’r beilïod alw.
Dair blynedd ynghynt yr oedd wedi dechrau ar ei brotest o atal ei dreth incwm. Mae’r hyn yr oedd ef yn ei ddweud am Ryfel Corea yn debyg iawn i’r cyhuddiadau sy’n cael eu gwneud heddiw am y rhyfel yn Iràc.
Yr ydych yn cofio rhyfel Corea,” meddai yn Arian gwaed a’r hawl i wrthod talu ei ysgrif fawr, ‘Pam y gwrthodais dalu treth yr incwm’ yn 1956. “... y modd y cafodd Taleithiau Unedig America eu ffordd yng Nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig, a hynny drwy ddichell, i gychwyn y trefniadau a rannodd y genedl anffodus honno yn ddwy; a’r modd y rhuthrodd hi’r Cenhedloedd Unedig i ryfel wedyn mewn gwewyr rhag iddi golli’r cyfle ...
Yr oedd Corea yn mynd ymlaen o ddydd i ddydd am yr un rheswm ag yr aethai Belsen ymlaen: am fod awdurdod yn gweithredu a phobl yn anghofio. Teimlwn mai ein Belsen ni oedd Corea. Belsen America a Lloegr a Chymru.”
|
A hithau’n gan mlynedd ers geni Waldo Williams, mae dechrau’r ymgyrch newydd yn amserol ac mae Siân Cwper yn teimlo y bydd rhagor o gydymdeimlad at yr achos yn sgîl yr hyn a wyddon ni bellach am y rhesymau tros y rhyfel yn Iràc.
Fel Waldo Williams, Crynwyr yw nifer o’r saith gan barhau â thraddodiad hir yr enwad yn erbyn rhyfel. Ond un o ddilynwyr Bwda yw Siân Cwper, sy’n byw gyda’i merch 13 oed rhwng Garreg Llanfrothen a Chroesor.
Y cyfeiriad hwnnw yw’r cliw i’w chefndir, mae’n un o deulu Portmeirion a Clough Williams-Ellis, yn chwaer i’r llenor Robin Llywelyn ac yn berchen ar siâr o fusnes crochenwaith y teulu.
Yr incwm preifat hwnnw sy’n ei gwneud yn bosib iddi hi atal rhan o’i threth, yn wahanol irywun ar gyflog sy’n talu PAYE trwy’r gwaith.
Ro’n i wedi bod yn bwriadu gwneud hyn ers dwy neu dair blynedd cyn penderfynu mynd ati o ddifri,” meddai.
Roedd y rhyfel yn hollol, hollol anghywir. Roedd yn annemocrataidd, yn anfoesol ac anghyfreithlon.”
Ei barn bersonol hi yw hynny, meddai, ond mae taflen sydd wedi ei chyhoeddi gan y saith i geisio codi arian a chefnogaeth yn mynegi syniadau tebyg.
Rwyf wedi fy argyhoeddi’n gryf ers i mi ddod ’m hoed a’m hamser, bod pob rhyfel a phob paratoi at ryfel, yn anghyfiawn ac yn erbyn ysbryd Duw,” meddai un, sy’n gyfrifydd siartredig.
Mae un arall yn feddyg ac yn mynnu fod cyfrannu at ryfel, “yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol”, yn anghyson ag egwyddorion ei phroffesiwn. Datrys gwrthdrawiadau yw’r nod, meddai trydydd.
Ar sail ei daliadau Bwdaidd y mae Siân Cwper yn gwneud ei safiad. “Y mae lladd a chlwyfo pobol yn hollol groes i hynny, ac nid wyf am dalu amdano,” meddai hithau yn y daflen. “Dw i eisio i fy nhrethi fynd at rywbeth buddiol.”
Dyna fydd sail yr achos llys fod gwrthwynebwyr cydwybodol yn cael yr hawl i ddefnyddio’r elfen ‘filwrol’ o’u treth incwm i dalu am ymdrechion i geisio datrys gwrthdaro trwy ddulliau di-drais.
Fe fyddan nhw’n sôn am nifer o ddatblygiadau mewn cyfraith, gan gynnwys y Cytundeb Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a Deddf Hawliau Dynol 1998 yn y Deyrnas Unedig. Yn ôl eu cyfreithiwr, mae ganddyn nhw obaith hannerhanner o ennill.
Dylan Iorwerth
Dod at ein gilydd
Y cyfreithiwr, Phil Shiner, a ddaeth â’r saith ymgyrchydd at ei gilydd, wrth chwilio am bobol a allai ddwyn achos o’r fath.
Doedd Siân Cwper ddim yn adnabod y lleill cyn dechrau ond maen nhw i gyd yn aelodau o’r ymgyrch dreth heddwch ac ar e-bost y dechreuon nhw drafod y syniad.
Mae argyhoeddiad y wraig o Groesor yn mynd yn ôl ymhellach lawer na hynny. Fe ddaeth ar draws Bwdaeth am y tro cynta’ pan oedd hi yn yr ysgol, ond heb gymryd gormod o sylw ohono.
Fwy na 30 o flynyddoedd yn ôl yr aeth hi i India a dod i gysylltiad â’r Dalai Lama a’r alltudion o Tibet. Fe wnaeth eu hagwedd heddychlon argraff fawr arni, er eu bod wedi eu taflu o’u gwlad ac wedi diodde’
anghyfiawnder mawr.
O’n i wedi cael magwraeth ddigrefydd, wrth-grefyddol hyd yn oed,” meddai Siân Cwper. “A do’n i ddim yn hapus efo hynny. Oedd yna lawer o bethau nad oeddwn i yn eu deall.”
Nid mater o ddilyn yn ddall yw Bwdaeth, meddai, ond mater o brofi pethau trosoch chi eich hunan “agwedd wyddonol at fywyd” a disgyblaeth meddwl sy’n gallu arwain person i dir uwch.
Fe fyddai rhai’n dadlau fod elfen debyg ym mywyd a gwaith Waldo Williams hefyd, gyda phwyslais y Crynwyr ar y “golau mewnol” a’r ffaith fod rhai o’i gerddi mawr fel ‘Mewn Dau Gae’ wedi cael eu sgrifennu yn yr un cyfnod a gyda’r un ysgogiad â’i brotest yn erbyn rhyfel.
Yn y diwedd, ddeng mlynedd ar ôl dechrau ei brotest, fe fu’n rhaid i’r bardd fynd i garchar am wrthod talu’r dreth. Mae nifer o’r saith yn barod i wneud yr un peth ac yn sôn yn eu taflen am draddodiad o ymgyrchu tebyg.
I Siân Cwper, sy’n fam sengl, roedd yr achos cyfreithiol yn rhoi ffordd mwy ymarferol iddi hithau fynd â’i phrotest ymhellach.
Hyd yn hyn, dyw’r awdurdodau ddim wedi gweithredu yn ei herbyn am atal rhan o’r dreth, ac mae hi’n amau fod rhesymau gwleidyddol tros hynny.
Dyw’r llywodraeth ddim eisiau tynnu sylw at y rhyfel nac at y gwrthwynebiad, meddai. Beth bynnag fydd yn digwydd gyda’r achos cyfreithiol, fe fydd yn llwyddo i wneud hynny.
|
|
|
|